top of page

Dathlu Ein Treftadaeth

Art and poetry comp - history wix.png

Cystadleuaeth Celf a Barddoniaeth

​Ein Treftadaeth – dathliad o ganmlwyddiant agor Ysbyty Glowyr Caerffili ym mis Mehefin 1923.

Cystadleuaeth Celf a Barddoniaeth

Ein Treftadaeth – dathliad o ganmlwyddiant agor Ysbyty Glowyr Cylch Caerffili ym mis Mehefin 1923.

Rydym yn chwilio am eitemau celf a barddoniaeth a fydd yn dathlu ein treftadaeth. Bydd hyn yn adlewyrchu atgofion gorffennol a phresennol ein cymuned a’n hysbyty dros y 100 mlynedd diwethaf. Ymhlith y themâu y gallech eu hystyried mae: Cymuned y Pyllau Glo ac Ysbyty Glowyr Caerffili a'r teuluoedd yr oedd yn eu gwasanaethu.

Y categorïau oedran yw:

7-11 oed
12-14 oed
15-18 oed
Oedolion

Celf - Ni chaiff cynigion fod yn fwy na maint A4 a gallant fod mewn unrhyw gyfrwng.

Barddoniaeth - Gall cynigion fod yn Gymraeg neu Saesneg, maint A4.


Sut i gynnig

Oedolion  

Ysgrifennwch eich enw ar gefn eich cynnig gyda rhif ffon neu gyfeiriad ebost os gwelwch yn dda.

Gofynnir i oedolion yn unig ysgrifennu datganiad 50 gair gyda'ch cyflwyniad yn nodi pam rydych wedi dewis y pwnc penodol.

Plant

Ysgrifennwch eich enw, oed a chyfeiriad ebost rhiant ar gefn eich cais os gwelwch yn dda.

Rhaid i'r cynigion gyrraedd y Glowyr erbyn 5 pm ddydd Gwener 26 Mai.

Byddant yn cael eu beirniadu yn ystod hanner tymor a byddwn yn tynnu llun pob cais ar gyfer ein harddangosfa rithwir. Bydd cynigion buddugol yn cael eu fframio a'u harddangos yn y ganolfan.  Bydd ceisiadau nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu dychwelyd i'r cyfranogwyr a fydd yn derbyn tystysgrif cyfranogiad.

Bydd gwobrau - gwybodaeth i ddilyn

Pob lwc!
 

bottom of page