Gwirfoddolwch gyda Ni
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gyda:
Agor a chau yr adeilad a chyfarch ymwelwyr
Cefnogi gweithgareddau sy'n gwella lles pobl hŷn, ee gweithgareddau digidol, ymarferion cadair, clwb chwist
Gwella'r gofod awyr agored i'r gymuned ei fwynhau
Gweithgareddau i blant ifanc a'u teuluoedd
Cynnal y caffi i gefnogi gweithgareddau a chodi arian i’r Glowyr
Ymddiriedolwyr i symud y sefydliad ymlaen i gyflawni ei weledigaeth
Digwyddiadau ad hoc fel y Ffeiriau Nadolig a Haf, partïon plant, te prynhawn, arwerthiannau pen bwrdd ac ati.
Drwy ein helpu, byddwch yn:
Derbyn hyfforddiant, fel Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd
Ennill cyfleoedd i gwrdd â gwirfoddolwyr eraill
Gwella'ch CV a gwella'ch sgiliau cyflogadwyedd
Cael mynediad at eirdaon swydd
Ennill hyder a sgiliau adeiladu tîm
Cael hwyl wrth roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned
Gallu ymuno â chynllun Credyd Amser
Mae’n bosibl y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer rhai gwirfoddolwyr (heb unrhyw gost i wirfoddolwyr).
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael ar hyn o bryd, anfonwch e-bost at Pauline yn: volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk
neu
Cyflwynwch y ffurflen wedi'i chwblhau isod a byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost neu dros y ffôn.