Liz – Gardening Volunteer
◾ Dywedwch ychydig amdanoch chi'ch hun.
Rwy'n gweithio'n rhan amser, yn gofalu am fy wyrion ac wyresau yn rheolaidd ac ar gyfer ymlacio a'r cyfle i siarad ag oedolion rwy'n gwirfoddoli bob bore Mercher yn y Ganolfan.
◾ Pa rôl (neu rolau) gwirfoddol ydych chi'n ymwneud â nhw yn y Glowyr?
Rwy'n arddwr gwirfoddol ac yn gwneud ychydig o waith gweinyddol.
◾ Pam ydych chi'n mwynhau'r rôl hon?
Rwyf wedi dysgu cymaint am arddio a'r newid yn yr hinsawdd ac mae bellach yn dod i mewn i fy ngardd fy hun sy'n fy ngwneud yn hapus iawn. Rwy'n cael treulio amser gyda gwirfoddolwyr eraill sydd â'r un feddylfryd, rydym yn dysgu gyda'n gilydd gan ein garddwr arweiniol, ac rydym wedi adeiladu perthynas ar ddiddordeb cyffredin.
◾ Beth ydych chi'n meddwl y mae'r cyfranogwyr yn ei gael o'r gweithgaredd hwn?
Pan fyddwn yn rhannu'r hyn a gawn o'r garddio rydym i gyd yn cytuno mai'r hyn a fwynhewn yw bondio drwy ddiddordeb cyffredin, dod yn fwy heini ac iachach yn yr awyr agored, y boddhad a'r pleser a gawn o weld 'ffrwyth' ein gwaith a'r gwerthfawrogiad o'n gwaith gan y gymuned.
◾ Hoffem annog eraill i wirfoddoli gyda ni yn y Glowyr. A allwch ddweud wrthym pam y byddech yn eu hargymell?
byddech yn ei argymell? Mae’r Glowyr yn lle cyfeillgar: mae’r staff a’r gwirfoddolwyr rydych chi’n cwrdd â nhw ‘wrth y drws’ ac yn y caffi yn groesawgar, yn ‘gynnes’ ac yn barod i sgwrsio.
◾ A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?
Nid oeddwn wedi defnyddio cyfrifiadur ers tro ac roeddwn yn ansicr am rai o’r rhaglenni a ddiweddarwyd ond bu cyfleoedd i dreulio amser gyda phobl a oedd yn fodlon fy hyfforddi.
Os hoffech chi ddod yn wirfoddolwr gyda ni, e-bostiwch: volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk