top of page

Yoga (Elinore Lewis)

Dydd Llun 11.30am-12.30pm

£7 i'w dalu ar y diwrnod 

download (5).png

(Dewch a'ch mat a'ch potel ddwr eich hun os gwelwch yn dda)

Mae'r dosbarth ioga o allu cymysg ac yn addas ar gyfer pob lefel.
Mae'n seiliedig ar Vinyasa  – i gynhesu'r corff trwy symudiadau a gwella'r anadlu. 

Danfonwch neges at Ellie i fwcio lle ar: 

Mobile: 07419 296648

  • Instagram
  • Facebook

Yoga (Jo Dando)

Llun  8.00 - 9.00pm

£6 y sesiwn

jo dando.jpg

Rwy'n cyflwyno ymarfer yoga er llesiant; ymarfer anadlu ac ymlacio dan reolaeth sy'n eich helpu i roi rhywbeth cynhaliol nol i chi'ch hun. 

 

Bydd yr ymarferion yma yn eich helpu i leihau pryder a phwysedd corfforol a meddyliol. Byddwch yn dysgu dulliau all eich helpu i deimlo'n gartrefol yn eich corff ac yn dawelach eich meddwl.

Yoga (Jo Morgan)

Mawrth   7.15 - 8.15pm

Mercher 11.30am - 12.30pm

£6 y sesiwn

Jo Morgan.jpg

Mae'r dosbarth yoga Hatha modern ac ymlacio yma yn addas i bob gallu gan ein bod yn dysgu opsiynnau isel ac uchel. Bydd y safleoedd yoga/asanas yn rhoi egni i chi ac yn gwella eich cryfder, cydbwysedd, ystwythder ac yn helpu eich iechyd meddwl. Mae'n ddosbarth cyfeillgar iawn sy'n croesawu aelodau newydd.

Ffon – 07906 812063

Yoga (Linda Stone)

Mercher  6.30–7.30pm

£6 y sesiwn

linda stone_edited.jpg

Rwyf wedi bod yn gwneud yoga ers 22 mlynedd ac yn dysgu fy nosbarth 'hatha yoga flow' am dros 6 mlynedd. Mae fy nosbarth yn dechrau trwy gynhesu deinamig i gyfeiliant cerddoriaeth hyfryd, yn symud i ymarfer ar ein traed ac yn parhau gyda gwaith llawr, o opsiynnau hawdd i rai mwy anodd, felly yn addas i bawb, ac yn gorffen gydag ymlacio cysurlon.

Cysylltwch:  Ffon 07908 676001

bottom of page