Chris – Gwirfoddolwr Garddio
◾️ Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun.
Ar ôl byw yng Nghaerffili ers bron i 40 mlynedd, cafodd ein plant eu geni yn Ysbyty’r Glowyr, felly roedd yn teimlo’n naturiol i gymryd rhan fel gwirfoddolwr ar ôl ymddeol. Rwy’n angerddol am arddio ac roedd fy ymddeoliad yn cyd-daro â’r ffaith bod y Ganolfan eisiau ailgreu’r ardal adfeiliedig o flaen yr adeilad. Roeddwn i wedi gwirioni!
◾️ Pa rôl (neu rolau) gwirfoddol ydych chi'n ymwneud â nhw yn y Glowyr?
Trawsnewid unrhyw ofod sydd heb adeilad arno yn ofod tawel, hardd i bobl ei fwynhau.
◾️ ️Pam ydych chi'n mwynhau'r rôl hon?
Rwyf wrth fy modd â’r her greadigol, yn gweithio yn yr awyr iach ac yn cymysgu â grŵp dawnus, cyfeillgar o bobl sydd i gyd eisiau gwneud y gofod yn fwy prydferth.
◾️ Beth ydych chi'n meddwl y mae'r cyfranogwyr yn ei gael o'r weithgaredd hon?
Y boddhad o weld yr ardd yn tyfu, cwrdd â phobl newydd, ennill sgiliau a gwneud rhywbeth am y newid hinsawdd.
◾️ Hoffem annog eraill i wirfoddoli gyda ni yn y Glowyr. A allwch ddweud wrthym pam y byddech yn ei argymell?
Mae’n lle hawdd i wirfoddoli, gydag amgylchedd cefnogol, agwedd ‘gallu gwneud’ a record anhygoel o wneud gwahaniaeth.
Os hoffech chi ddod yn wirfoddolwr gyda ni, e-bostiwch: volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk