top of page

Prosiect Gwau 2024

Helo, Caroline ydw i ac rydw i wedi bod yn gwau ers y cyfnod cloi. Am nifer o flynyddoedd roeddwn i'n gwau ar gyfer gŵyl coed Nadolig eglwys Sant Martin – o tua mis Medi ymlaen. Pan ddaeth y cyfnod cloi, roeddwn i'n gwau gyda'r nos - trwy'r flwyddyn. A heb ddim gwyl coed Nadolig roeddwn i'n cyfrannu i brosiect gwau'r Glowyr. Ers hynny, os ydw i gartref gyda'r nos, mae fy ngweill yn mynd wrth i mi wylio drama dda! Mae wedi dod yn rhan o ymlacio ac yn amlwg o fudd i eraill. Rwy’n prynu fy ngwlan o siop elusen leol hefyd, felly mae buddugoliaeth ddwbl. 

Dyma Ruth S ac mae hi’n un o wirfoddolwyr ein prosiect gweu. Mae hi'n crosio petryalau gyda'i gilydd i greu blancedi. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli yn ein grŵp garddio ac yn cymryd dosbarthiadau ymarfer corff mewn cadair ddydd Iau 

Dyma’r grŵp Gweu a Chlebran yn Nhai Pobl Hŷn Heol Islwyn yn Nelson, sy’n brysur yn gwau petryalau ar gyfer ein prosiect blancedi. Diolch bawb! 

Diolch i bawb am eich rhoddion o wlân! 

Rydym wedi cael amrywiaeth hyfryd o liwiau gwahanol, diolch. Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i Gyfnewidfa Gwisg Caerffili am eu rhodd hael o wlân. Rydym yn dal i gymryd rhoddion o wlân ac mae croeso i chi eu gollwng yn y blwch penodol yn ein Tŷ Coffi. Diolch! 

Ar ddiwedd Ionawr daeth un o’n gwirfoddolwyr o’r enw Ruth gyda’i gŵr i ollwng petryalau. Diolch Ruth. 

Rydym wir yn gwerthfawrogi pob un o’n gwirfoddolwyr gwau a chrosio ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion dyfal yn cynhyrchu petryalau a chrosio petryalau at ei gilydd i wneud blancedi. Mae hon yn ymdrech gymunedol anhygoel. Da iawn bawb! 

Dyma Amie, ein Swyddog Datblygu Ieuenctid yn dal enghraifft wych o flanced orffenedig! Mae Amie hefyd wedi bod yn trefnu gwau blancedi, petryalau, cyflenwadau gwlân a gweill yn ein hystafell grefft. Mae hi hefyd wedi trefnu i gwrdd â rhai o’n gwirfoddolwyr newydd i roi cyflwyniad llawn iddynt ac unrhyw gyflenwadau gwlân y bydd eu hangen. Diolch, Amie 

Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect hwn, cofrestrwch gyda ni drwy e-bostio: events@caerphillyminerscentre.org.uk

bottom of page