top of page

Emily, Sophie, and Gwyneth
Gwirfoddolwyr ieuenctid

365116331_675395177949375_975610147170889205_n.jpg

Dywedwch ychydig amdanoch chi'ch hun.

Mae Sofi ac Emily yn ddisgyblion blwyddyn 10 ac mae Caitlin yn ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth..

Pa rôl (neu rolau) gwirfoddol ydych chi'n ymwneud â nhw yn y Glowyr?

Rydym yn gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau plant yn ystod sesiynau ar ôl ysgol a gweithgareddau gwyliau. Rydym hefyd wedi bod draw i helpu gyda pharatoi digwyddiadau a chrefftau.

Pam ydych chi'n mwynhau'r rôl hon?

Mae'r Glowyr yn amgylchedd hapus i wirfoddoli ynddo. Mae llawer o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd. Mae'n teimlo'n dda i helpu yn ein cymuned. Rydym wedi cael profiad o gefnogi plant. Hoffai Caitlin weithio ym myd addysg yn y dyfodol. Rydym yn cael llawer o gefnogaeth gan y gwirfoddolwyr sy'n oedolion ac arweinydd y prosiect.

Beth ydych chi'n meddwl y mae'r cyfranogwyr yn ei gael o'r gweithgaredd hwn?

Mae'r clybiau'n ffordd wych i blant gymdeithasu y tu allan i'r ysgol a dysgu sgiliau newydd. Mae'r clwb coginio yn addysgiadol i'r plant. Rydyn ni'n astudio gwledydd gwahanol, ac mae'r plant yn cael eu cyflwyno i wahanol fathau o fwyd bob wythnos. Mae'r gweithgareddau yn lle i blant gael hwyl!

Hoffem annog eraill i wirfoddoli gyda ni yn y Glowyr. A allwch ddweud wrthym pam y byddech yn eu hargymell?

Mae’n amgylchedd croesawgar, ac rydym yn cael ein cefnogi gan y staff a’r gwirfoddolwyr. Lle gwych i gwrdd â phobl newydd. Gallwch hefyd ennill profiad a allai eich helpu yn y dyfodol.

A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?
Clywson ni am wirfoddoli gan aelodau o'r teulu a'r cyfryngau cymdeithasol; rydym yn argymell gwirfoddoli i'r Glowyr yn fawr. Mae'n brofiad gwych.

Os hoffech chi ddod yn wirfoddolwr gyda ni, e-bostiwch: volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk

bottom of page