Dathlu'r Canmlwyddiant
Cynnal ein treftadaeth i'r dyfodol
Rydym angen eich straeon a'ch lluniau!
Fel rhan o’n Dathliadau Canmlwyddiant, byddwn yn dechrau casglu atgofion pobl ar gyfer llyfr a chasgliad o straeon llafar am ‘Fy Mywyd a’r Glowyr’, y bwriadwn eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf.
Ysbyty'r Glowyr oedd y man lle cafodd y rhan fwyaf o boblogaeth Caerffili eu geni, lle cawsant driniaeth, neu lle buon nhw'n gweithio.
Rhwng 30 Mehefin 2023 a Chwefror 28, 2024, byddwn yn gwahodd pobl i rannu eu straeon a'u lluniau - naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar - i greu cofnod parhaol o'n treftadaeth gymdeithasol. Gallai’r themâu gynnwys:
-
fy nheulu trwy'r cenedlaethau,
-
yr adeilad a'r tir o'i amgylch,
-
byw mewn cymuned lofaol,
-
cysylltiadau â'r ysbyty – gwaith, triniaeth, offer
-
digwyddiadau a cherrig milltir allweddol,
-
cau yr ysbyty, a
-
creu canolfan gymunedol newydd
Os oes gennych stori i'w rhannu, hoffem ddatganiad byr (hyd at 100 gair) i ddisgrifio'ch atgofion. Cofiwch gynnwys eich enw, ffôn cyswllt, cyfeiriad e-bost. Hoffech chi adrodd neu ysgrifennu eich stori? Oes gennych chi luniau / delweddau y gallwn eu sganio a'u defnyddio?.
Anfonwch e-bost at heritage@caerphillyminerscentre.org.uk neu llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb yn y ganolfan a’i dychwelyd i’r blwch post Treftadaeth.
Rydym yn sefydlu gweithgor bach i brosesu'r wybodaeth hon a gwneud ymchwil. Dywedwch wrthym os hoffech ymuno!